Uncategorized

Aberth yn Rhuddlan…ond i pwy a pam?

Un o’r pethau sydd wedi dod yn amlwg yn ystod fy ngwaith ymchwil ac ysgrifennu y blog yma ydi cynlleied o bobl sy’n siarad Cymraeg – neu yn hytrach – yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg – sydd yn dilyn a blog. Felly, rhaid codi ymwybyddiaeth o’r gwaith dwi’n gwneud ar eich archaeoleg, hanes a llenyddiaeth chi.

Clawr llyfr 'Tywysogion' gafodd ei gyhoeddi i cyd-fynd efo'r gyfres ar S4C
Clawr llyfr ‘Tywysogion’ gafodd ei gyhoeddi i cyd-fynd efo’r gyfres ar S4C

Mae’n unarddeg mlynedd rwan ers i mi gychwyn fel yr ymchwilydd ac archaeolegydd ar gyfres ‘Tywysogion’. Fel rhan o’r gwaith, roedd rhaid ymweld a nifer o amgueddfeydd, a chwilota am straeon yn y creiriau i fod yn rhan o’r gyfres. Un o’r straeon na orfenodd i fynu yn y gyfres orfennedig yw hanes ceubwll T349.

Yn ystod diwedd y 1960au a chychwyn y 1970au o amgylch cestyll a trefi Rhuddlan oedd y lle i dyllu. Am nifer o rhesymmau, agorwyd nifer o mannau cloddio archaeolegol, ac yn y diwedd cyhoeddwyd gyfrol am y gwaith: http://archaeologydataservice.ac.uk/archives/view/cba_rr/rr95.cfm

Nodwch mae cestyll a trefi – nid castell a tref – yw’r geiriau cywir.

Castell gwreiddiol Rhuddlan ar y dde gyda castell Edwardaidd Rhuddlan ar y chwith. Roedd y burgh Eingl Sacsonaidd, y Llys Cymreig ac y Tref Normanaidd yn a caeau yn union uwchben mwnt y Castell. Mae'r tref Edwardiadd lle mae Rhuddlan fodern heddiw https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/VTC/ngfl/history/bdag/castles/projects/castles/units/rhuddlan/imagebank/aerial_gtj.jpg
Castell gwreiddiol Rhuddlan ar y dde gyda castell Edwardaidd Rhuddlan ar y chwith. Roedd y burgh Eingl Sacsonaidd, y Llys Cymreig ac y Tref Normanaidd yn a caeau yn union uwchben mwnt y Castell. Mae’r tref Edwardiadd lle mae Rhuddlan fodern heddiw
https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/VTC/ngfl/history/bdag/castles/projects/castles/units/rhuddlan/imagebank/aerial_gtj.jpg
Safle cloddio 'T' wedi marcio a dot coch
Safle cloddio ‘T’ wedi marcio a dot coch

Roedd y cloddio yn safle ‘T’ yn edrych ar beth digwyddodd i ffos yr hen dref Normanaidd wrth i’r castell a dref newydd cael ei godi. Roedd ceubwll T349 wedi ei dori i fewn i dop y ffos wedi iddo gael ei ail-lenwi.

Mae T349 i'w weld ar dop y tudalen
Mae T349 i’w weld ar dop y tudalen

Rhaid dyfynnu adroddiad yr archaeolegydd yn y man yma.

Pit T349 (Site T) deserves special comment. It appeared to have been dug through the final infill of Ditch III, ascribed above to the summer of 1277. The collection of objects it contained is remarkable. The barrel padlock No 86, with a possible date range within the 11th and 12th centuries, was found with bucket handle No 75 and chain No 80 and the finely worked, unused whetstone MSF 32 above a layer of lead which had been poured into the pit around some wooden object. If the collection were prehistoric it would undoubtedly be labelled ritual. Even around 1277 its deposition suggests some deliberate act connected with changes in control and perhaps the moving of castle and borough sites.

Felly, pa fath o hud a lledrith sydd yn digwydd yma? Mae darganfod esiampl o digwyddiadau fel hyn yn anarferol iawn. Fel arfer, gwelir hud a lledrith yn rhan o’r brocess o gladdu unigolyn, a mae nifer helaeth o cyrff wedi dod i’r amlwg yn dangos fod rhywbeth ‘ychwanegol’ i’r arferol wedi cael ei cynnwys wrth rhoi y person yn y bedd. Tybed be a welir yma ydi claddu cymuned Cymraeg gan y Cymru wrth i’r castell newydd godi. Yn diddorol, a rhywbeth na godwyd yn y adroddiad gwreiddiol, pwy rhoddodd caniatad i’r digwyddaid yma? I toddi y Plwm rhaid cael tan boeth, a rhaid hefyd casglu y creiriau yma at ei gilydd, rhai mae’r archaeolegydd yn meddwl oedd yn hen ac wedi cael ei cadw. Pwy cerfiodd y gwrthrych pren, a beth yn union oedd hi? Yn olaf, faint o bobl oedd yn rhan o’r serimoni arbennig yma, a pwy oeddyn nhw? Fel dwi wedi darganfod yn ystod y gwaith yma, nid hwn yw’r unig esiampl o hud a lledrith yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr oesoedd canol.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s